Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 25 Ebrill 2023
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhaglen Lifogydd 2023/24
(30 munud)
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar weithredu Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg
(30 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Strategaeth Ddiagnostig Genedlaethol
(30 munud)
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ffyniant Cyffredin a Ffyniant Bro
(30 munud)
7 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Arferion Mabwysiadu Hanesyddol
30 munud
8 Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023
(5 munud)
NDM8244 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mawrth 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)
(30 munud)
NDM8243 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
10 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 26 Ebrill 2023